Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach (CSARF)

Mae cyfnod Mynegiad Diddordeb (MD) y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach (CSARF) ar agor i geisiadau gan bob Awdurdod Porthladd (AP) ac Awdurdodau Lleol (LA) sy’n berchen ar borthladdoedd ac harborau ar draws Cymru a’n cyrraedd y meini prawf dewis cymhwystra fel y’i gosodir allan yn y llyfryn hwn. Mae’r CSARF yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn isadeiledd porthladd a harbwr sy’n darparu buddion i wella perfformiad cyffredinol, cynaliadwyedd, diogelwch a lles diwydiannau Morol a Physgota Cymreig yn ogystal â galluogi’r cyhoedd i fwynhau defnydd o gyfleusterau ac ardaloedd cyfagos.

Mae’r grant yn darparu hyd at 100% tuag at fuddsoddiadau cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau sydd wedi’u nodi ymlaen llaw er mwyn cefnogi defnyddwyr Morol i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, gweithredol, diogelwch a sicrwydd. Y wobr grant fwyaf i bob harbwr neu borthladd yw hyd at £100,000, i brynu eitemau cyfalaf wrth restr sydd wedi’i bennu ymlaen llaw ar draws pedwar maes ffocws allweddol am ganlyniadau, sy’n cyfateb i, a gellir eu mesur, gan un neu fwy o’r dangosyddion a restrir isod.

Canlyniadau

  • Amgylcheddol – cynnydd mewn ailgylchu sbwriel Morol
  • Gweithredol – cynnydd mewn swyddi sydd wedi’u diogelu gan fuddsoddiad
  • Diogelwch – lleihau’r nifer neu’r damweiniau sy’n cael eu cofnodi mewn porthladdoedd neu harborau
  • Sicrwydd – lleihau’r nifer o weithredoedd troseddol (fandaliaeth, dwyn ayyb)

Dangosyddion

  • Amgylcheddol – cyfaint o adnoddau sy’n cael eu hailgylchu gan borthladd neu harbwr (tunelli)
  • Gweithredol – nifer o swyddi sydd wedi’u diogelu a chreu (FTE)
  • Diogelwch – y nifer o anafiadau a damweiniau yn y gwaith (gan uned sengl)
  • Sicrwydd – nifer o ddigwyddiadau sydd wedi’u cofnodi (gan uned sengl)

Dim ond un wobr grant bydd yn cael ei wneud i bob porthladd neu harbwr o dan y cynllun ac mae’r Mynegiad Diddordeb (MD) ar gael trwy RPW Ar-lein. Os bydd eich MD yn cael ei ddewis, rhaid i chi dderbyn neu wrthod y dewisiad a dychwelyd yr Atodiad Cais sy’n rhan o’ch llythyr nodi dewisiad trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad sydd wedi’i gynnwys yn y llythyr. Bydd gennych chi wyth wythnos o ddyddiad y dewisiad i gyflwyno’ch cais llawn a dogfennau ategol. Y cynlluniau a dogfennau bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno yw:

  • Cais Llawn y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach Ar-Lein
  • Tri Dyfyniad ar gyfer pob eitem buddsoddiad sydd ar y MD
  • Tair Blynedd o Gyfrifon Ardystiedig
  • Caniatâd Cynllunio ac/neu drwyddedau angenrheidiol os yn addas

Mae’r Cynllun ar agor tan yr 22ain o Ragfyr 2021.