Bargen Masnach y DU ac Awstralia
Mae Llywodraeth y DG wedi mynnu bydd ffermwyr Prydain yn cael eu ‘gwarchod’ gan gap ar fewnforion heb dariff am 15 mlynedd, ond nid yw’n hysbys eto faint o gynnyrch Awstralia bydd yn cael ei ganiatáu mewn i’r DG o dan gwota yn ystod yr amser hwn. Y gred gyntaf yw, ar gyfer mewnforion Bîff, bydd cwota blwyddyn un yn cychwyn ar 35,000 tunnell, gan gynyddu dros gyfnod o 10 mlynedd i 110,000 tunnell posib. Ar gyfer mewnforion Defaid, credir y bydd cwota blwyddyn un o bosib yn cychwyn ar 25,000 tunnell, gan gynyddu dros 10 mlynedd i 75,000 tunnell.
Gan nad yw manylion y ddêl eto wedi’u cyhoeddi, nid yw’r ffigyrau hyn wedi’u cadarnhau ac mae’n annhebygol y byddwn yn gwybod y rhain tan fod y Bil ar bapur, mewn du a gwyn. Mae’n aneglur hefyd p’un ai bydd nwyddau arall yn derbyn mynediad ychwanegol i farchnad y DG – un gofyn allweddol trafodwyr Awstralia oedd ynghylch mewnforio Siwgr Câns.
Mae’n ymddangos nad yw’r cyhoeddiad wedi sôn am les anifeiliaid a safonau amgylcheddol o gwbl. Yn flaenorol, mae Llywodraeth y DG wedi bod yn awyddus i amlygu sut bydd ein Cytundebau Masnach Rydd yn cynnal ein safonau uchel cynhyrchiant bwyd, fod bynnag, mae marc cwestiwn wedi bod erioed dros sut i wneud hyn wrth agor ein marchnadoedd i fwyd sydd wedi’u cynhyrchu i safonau gwahanol. Bydd angen i ffermwyr wybod mwy am unrhyw ddarpariaeth ar les anifeiliaid a’r amgylchedd er mwyn sicrhau nad yw ein safonau uchel yn cael eu tanseilio gan delerau’r ddêl hon.
Mae cyhoeddiad gan RSPCA wedi bod yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos bod ffermio Awstralia yn ymwneud ag ymarferion sydd wedi’u gwahardd yn y DG, gan gynnwys cadw ieir mewn cewyll batri a chaniatáu i wartheg gael eu magu mewn mannau bwydo heb gysgod. Mae amseroedd cludo gwartheg hefyd ddwbl beth sy’n cael ei ganiatáu yn y DG, ac mae defnydd gwrthfiotig ffermydd Awstralia yn sylweddol uwch na’r DG.
Yn y bôn, golyga arwyddo cytundeb fasnach gydag Awstralia, sy’n dileu tariffau ar fewnforion cig rhad o safon isel, y bydd Llywodraeth y DG yn torri ymrwymiad maniffesto ei hun i warchod safonau bwyd Prydeinig. Yn ogystal, mae’n anwybyddu dros ddwy filiwn o bobl a arwyddodd ddeisebau ar y mater yn 2020 ac argymhellion Comisiwn Fasnach ei hun.
Prawf eithaf y cytundeb fasnach hwn yw p’un ai ei fod yn cyfrannu at symud ffermwyr ar draws y byd at sylfaen fwy cynaliadwy, neu p’un ai ei fod yn lle, yn tanseilio ffermio’r DG gan allforio effaith amgylcheddol a lles anifeiliaid y bwyd yr ydym ni’n bwyta.
Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DG nawr yn ymgysylltu gyda’r diwydiant ar fanylion y ddêl cyn gynted â phosib a bod y Senedd yn cymryd llawer mwy o ran yn ystod camau olaf y trafodaethau er mwyn sicrhau goruchwyliaeth sylweddol a chraffu ar y cytundeb. Golyga hyn darparu manylion i’r ddau Dŷ ymhell cyn y cadarnhad ynghyd ag asesiad effaith fel gall y Senedd sicrhau ei fod yn hapus bod y ddêl yn iawn i’r DG gyfan – y defnyddwyr, gweithwyr, ffermwyr a busnesau arall fel ei gilydd.