Rural Advisor

Advisory Service for Rural Issues

Home Yr Amgylchedd

Yr Amgylchedd

Cynlluniau Rheoli Maetholion 

Mae cynllunio rheolaeth maetholion yn targedu ceisiadau maetholion i’r lle sydd angen nhw fwyaf, sef gwella effeithiolrwydd defnydd gwrtaith.

Gallwn ymgymryd â chynllunio maetholion manwl sydd o fantais i gynhyrchiant wrth leihau costau gwrtaith, yn ogystal â sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio gyda deddfwriaeth.

Mae’r rheolau ffermio newydd o ran dŵr yn mynnu bod gwasgaru gwrtaith yn paru gyda’r gofynion cnydau, a all ond gael ei gyflawni trwy gynllunio maetholion. Rhaid i hwn ystyried canlyniadau samplu pridd, sy’n ofynnol bellach bob 5 mlynedd ar bob tir sy’n cael ei drin, neu’n derbyn gwasgariad gwrtaith neu dail. Rhaid i ffermydd mewn NVZs gadw cofnodion gwasgaru maetholion manylach, a gall rhai opsiynau cynlluniau amaeth-amgylchedd hefyd fod angen cynlluniau rheoli maetholion.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Cynlluniau Rheoli Maetholion
  • Mapiau Risg Gwasgaru
  • Cyngor NVZ
  • Cydlynu gyda gofynion Deddfwriaethol

Coedwigaeth

Nid yw llawer o berchnogion coetiroedd yn hollol ymwybodol o botensial ariannol eu coetir a sut gallant wneud y gorau ohono.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Cyflwyno ceisiadau Stiwardiaeth Cefn Gwlad
  • Cytundebau Glastir – Creu Coetir
  • Cyngor ar reolaeth teneuo, mesur pren a marchnata
  • Cynllunio rheolaeth coetiroedd
  • Dylunio Planhigfeydd
  • Ceisiadau trwydded cwympo coed