Mae hysbysiad wedi’i anfon i bob cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (TGC) yn hysbysu bydd Ffurflen y Cais Sengl (SAF) ar gael i’w gwblhau o’r 1af o Fawrth 2022 tan ganol nos ar y 16eg o Fai 2022. Bydd ceisiadau eleni eto yn cael eu cwblhau trwy TGC ar-lein.
Rhaid i SAF 2022 gael ei ddefnyddio i wneud cais i’r Gronfa Genedlaethol am ddyraniad hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), yn ogystal ag i hawlio taliad ar gyfer y cynlluniau canlynol:
- BPS, yn ogystal â Ffermwr Ifanc
- Glastir Uwch (GU)
- Glastir Organig (GO)
- Premiwm Tir wedi’i Wella (PTwW)
- Premiwm Creu Coetir Glastir (PCCG)
- Cynnal Creu Coetir Glastir (CCCG)
Yn ystod y cais, rhaid i chi hawlio ar gyfer yr holl gynlluniau yr ydych chi’n bwriadu gwneud ar y SAF, dangos yn yr adran ‘Data Caeau’ pa gaeau yr ydych chi’n defnyddio i gynnal y taliad ar gyfer pob cynllun yr ydych chi’n hawlio, sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw newid i’r parsel tir wrth gwblhau eich datganiadau caeau SAF a sicrhau eich bod yn hawlio yn erbyn pob ymgais tir comin yr ydych chi’n dymuno defnyddio i gefnogi eich cais os oes angen. Noder y dylai unrhyw newidiadau i’r parseli caeau gael eu diweddaru ar y system Rheoli Fy Nhir o fewn 30 diwrnod o’r newid. Mae hwn yn cynnwys hysbysyiadau o unrhyw ddyddiadau cychwyn ar denantiaethau a threfniadau meddiannu newydd sydd gennych chi.
O ran dogfennau ategol BPS, y dyddiad cau ar eu cyfer yw’r 31ain o Ragfyr 2022. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tystiolaeth o Weithgaredd Amaethyddol;
- Tystiolaeth ar gyfer y Taliad Ffermwr Ifanc; a
- Thystiolaeth i gefnogi cais i’r Gronfa Genedlaethol.
Fel yn 2021, ac yn destun i hawlio cymhwystra a derbyn yr holl ddogfennau ategol angenrheidiol, mae yna fwriad i wneud Taliad Cyntaf BPS o’r 14eg o Hydref 2022 sy’n 70% o werth terfynnol hawliad BPS 2022. Ni fydd angen cwblhau ffurflen gais ar wahân ar gyfer hwn.
Am wasanaeth ffi sefydlog i’ch helpu gyda chwblhau eich ffurflen SAF, trosglwyddo Hawliadau, neu cais Rheoli Fy Nhir, cysylltwch â Katie Davies ar 01267887190 neu katie.davies@ruraladvisor.co.uk a fydd yn hapus i’ch helpu. Bydd ein slotiau yn llanw’n gyflym felly peidiwch â’i adael tan gychwyn fis Mai cyn cysylltu.