Cynllun Dileu TB– Cyfnod ymghyngorol yn gorffen ar yr 8fed o Chwefror 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am ymatebion i’w hymgynghoriad pwysig diweddaraf ar gyfer y gymuned amaethyddol. Maent wedi galw’r ddogfen yn “Rhaglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB”.  Camenw os fu un erioed.

Os ydych chi’n cychwyn wrth dderbyn nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gymryd y camau angenrheidiol i ddileu TB, mae’n gwneud darllen ac ymateb i’r ddogfen rhywfaint yn haws. Mae’r sail dystiolaeth a ddarparwyd ar gychwyn y ddogfen ymgynghoriad yn wael a detholus. Yn yr un modd, nid yw llawer o’r cynigion wedi’u cefnogi gan resymu â thystiolaeth o ran pam y byddant yn gwella’r sefyllfa.

Mae’n naturiol aruthrol o siomedig i’n diwydiant nad ydynt yn mynd i’r afael ag effaith emosiynol ac ariannol TB yn briodol, ond mae o hyd yn bwysig bod ein lleisiau’n cael eu clywed.  Yn naturiol, mae’r Undebau ffermio yn paratoi eu hymatebion ond mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn clywed cymaint o brofiadau personol â phosib, felly os gallwch chi, cymerwch yr amser i ymateb i’r Ymgynghoriad os gwelwch yn dda.

Mae yna lawer o gynigion i’w hystyried yn yr Ymgynghoriad, llawer ohonynt yn cynyddu’r faich profi ar ffermwyr – fel arfer yn gost iddyn nhw hefyd. Mae yna gynigion i gynyddu profi cyn ac ar ôl symud, yn ddibynnol ar o ba ardaloedd risg y mae’r gwartheg yn cael eu symud ac i ble maen nhw’n mynd. Mae’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd isel a chanolig hefyd wedi’u lleihau, gyda chynnig cynyddu profi mewn ardaloedd risg isel. Bydd y cynnig ddim i ganiatáu i’r ail brawf clir i gael ei ddefnyddio fel prawf cyn symud yn achosi straen ychwanegol sylweddol i fusnesau a theuluoedd ffermio sy’n croesi popeth yn ystod wythnos y prawf yn y gobaith bydd y straen yn gallu cael ei godi. Mae cyfnod ychwanegol o straen a chost gynyddol yn cael ei gynnig, yn galw am brawf arall eto wedi i’r 60 diwrnod pellach basio. Am Lywodraeth sy’n gweld hi’n angenrheidiol ar eu tudalennau gwe i arwyddbostio’r diwydiant i elusennau sy’n medru helpu’r sector gydag iechyd meddwl a materion ariannol, mae’n ymddangos eu bod yn amharod i ystyried bod eu polisïau a chynigion pellach wrth wraidd achosi llawer o’r problemau hyn.

Mae yna gynigion i gyflwyno mesurau gyda’r bwriad o ddarparu gwybodaeth i brynwyr stoc ar statws TB y gwartheg sydd ar werth. Pe bai mesurau’n cael eu cynnig i ddelio gyda phob tarddiad haint gan ddileu’r clefyd yn wirioneddol, gellid deall y symudiad i fasnachu yn seiliedig ar risg. Fel mae’n sefyll, beth sy’n cael ei gynnig yw offeryn swrth sydd ddim yn darparu’r darlun cyfan. Mae hefyd yn bygwth lleihau gwerth stoc sydd wedi’u lleoli mewn ardal risg uchel yn sylweddol, yn gyfunol gyda’r diffyg ymgais gwirioneddol i waredu’r clefyd, yn gadael y ffermydd hynny yn y niwl. Mae’n bwysig bod y mesurau hyn – os byddan nhw’n cael eu cyflwyno – yn dangos y darlun cyfan a ddim yn gosod baich ariannol hyd yn oed yn fwy ar fusnesau mewn ardaloedd risg uchel. Mae yna hefyd fwriad i ychwanegu rhagor o wybodaeth i’r Mapiau TB sydd ar gael yn gyhoeddus. Mae angen gofal gyda gwarchod y data hwn a does dim rheswm i bobl oni bai am ffermwyr a milfeddygon i gael mynediad cyson i’r data hyn. Dylid osgoi gosod teuluoedd ar risg yn eu cartrefi eu hunain yn llwyr a dylai hwn fod yn ystyriaeth gynradd wrth ystyried math wybodaeth.

Mae’r mathau o brofion sy’n cael eu defnyddio hefyd o dan adolygiad, gan gynnwys y cynnig i ddefnyddio prawf gama yn fwy cyson yn hytrach na phan bod problem hysbys. Er bod y mwyafrif yn gwybod bod problemau gan y prawf croen yn ei hun, mae problemau’r prawf gama yn wahanol. Ceir gradd uwch o brofion positif ffug, gyda phenodoldeb is o gymharu gyda’r prawf croen. Pan fe’i defnyddir mewn modd wedi’i dargedu pan fo problem, mae’n ymddangos mai’r methiannau yw’r gost o ddileu’r clefyd yn llwyr, rhag gwartheg oleiaf. Fodd bynnag, mae cyflwyno’r prawf i sefyllfa lle nad oes problem yn tueddu arwain at brofion positif ffug, wedi’i ddilyn gyda’r cyfyngiadau a chylchfa niweidiol a chostus o brofi sy’n dilyn.

Yn olaf, mae yna gynigion i wneud newidiadau sylweddol i’r iawndal a delir i ffermwyr am y gwartheg sydd wedi’u heintio gan TB. Hyd heddiw, mae galwadau i ddilyn Lloegr at werth tabl wedi’u gwrthod ac mae gwerth y gwartheg sydd wedi’u heffeithio yn seiliedig ar brisiad go iawn. Mae yna lawer o opsiynau ar gael sy’n gwaredu’r system a’i ddisodli gyda naill ai tabl neu system gyfartaledd neu apwyntio bwrdd i ddelio gyda’r prisiad, ond, heb ddweud ar y polisi. Mae’r symudiad i brisiad tabl (neu brisiad tabl gydag ymgodiad am aelodaeth cynllun iechyd) yn debygol o arbed rhwng £4 a £5 miliwn i’r Llywodraeth. Canlyniad rhywfaint yn rhyfedd, o bosib, am system sydd i fod yn syml cyfrifo gwir werth cyfartaledd stoc.

Fel mae’r pwynt diweddaf yn awgrymu, prif wthiad yr ymgynghoriad yw cynyddu’r faich a chost y clefyd i ffermwyr gan arbed arian sylweddol o ran yr iawndal a gynigir. O ystyried patrwm ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru mae’n ymddangos yn debygol y bydd nifer o’r cynigion hyn yn dod i rym yn y pen draw. Fodd bynnag, tra’i fod yn hollol ddealladwy pam yr ydych chi a minnau’n feirniadol ar yr adeg yma, mae’n bwysig i ymateb mor llawn â phosib, gan esbonio sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich busnesau a’ch bywydau.   Mae yna gyfle o hyd i leihau’r effeithiau negyddol ar yr adeg yma. Gall eich ymatebion hefyd gyfrannu i’r dystiolaeth bydd ar gael mewn unrhyw her gyfreithiol i’r rheoliadau yn y dyfodol.   Mae nifer o flynyddoedd wedi pasio ers bod yna benderfyniad mawr ynghylch rheoliadau TB a fydd yn amlwg yn agor y drws i herio polisi Llywodraeth Cymru ar TB a’i gweithredu. Bydd y rheoliadau a fydd yn dilyn yr ymgynghoriad hyn yn darparu penderfyniad clir a fydd yn caniatáu’r rhai hynny yn y sector i ystyried p’un ai eu bod yn bwriadu herio safiad y Llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i greu problem llwyr wleidyddol allan o un gwyddonol pan fo TB yn y cwestiwn. Hyd yn oed os nad ydych chi’n credu mwyach y bydd perswâd trwy’r broses ymgynghorol yn gweithio, ystyriwch gyfrannu at gorff y dystiolaeth a allai fod yn ddefnyddiol yn y pen draw os gwelwch yn dda.

Rhodri Jones, Rural Advisor

Am fwy o wybodaeth neu i ddweud eich dweud ewch i’r wefan isod:-

https://llyw.cymru/rhaglen-ddiwygiedig-ar-gyfer-dileu-tb-2021