Rural Advisor

Advisory Service for Rural Issues

Home AD & Chyflogaeth

AD & Chyflogaeth

Yn flynyddol mae nifer fawr o fusnesau yn profi problemau cyfreithiol sylweddol mewn perthynas â’u gweithwyr neu fusnes. Ychydig iawn sy’n medru fforddio cael arbenigwyr wrth law i’w ddatrys yn gyflym, effeithlon a chyda’r amhariad lleiaf posibl. Dyma lle gall Rural Advisor helpu.

Rural Advisor yw’r cynghorwyr busnes y gallwch chi ymddiried ynddo gyda’ch enw da, gweithwyr a busnes. Mae Rural Advisor yn cynnig ystod o wasanaethau cynghorol sy’n ymroi i ddarparu cyngor arbenigol i ffermwyr, busnesau bach a mawr, a thirfeddianwyr. Rydym yn ymfalchïo mewn:

  • Didoli sefyllfaoedd anodd
  • Atal anghydfodau
  • Helpu arbed amser ac arian i chi
  • Osgoi niwed i enw da a pherthnasoedd gweithio
  • Helpu chi i gadw gweithwyr da

Bydd aelod ymroddedig o’n tîm sydd â blynyddoedd o brofiad mewn AD a Datblygiad yn gofalu amdanoch o’r cychwyn i’r diwedd.

Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Cyfleoedd Cyfartal
  • Rheolaeth Perfformiad
  • Cytundebau Cyflogaeth
  • Disgyblaethau & Chwynion
  • Rheolaeth Absenoldeb
  • Terfyniadau
  • Hyfforddiant Mewnol Pwrpasol
  • Cymorth ymgynghoriaeth AD ar y safle

Cyflogi Gweithwyr Fferm

Gall ein tîm cyflogaeth ddelio gydag ystod eang o faterion o bersbectif y cyflogwr a’r gweithiwr. Gallwn gynghori ar gytundebau gweithwyr fferm – p’un ai wedi’u cyflogi neu’n hunangyflogedig, cytundebau setlo, busnesau ffermio sy’n cael eu dirwyn i ben a materion arall sy’n ymwneud â chyflogaeth.  Ceir gwahaniaethau penodol o ran sut mae cyfraith gyflogaeth yn berthnasol i weithwyr amaethyddol, sy’n bwysig bod yn ymwybodol ohonynt.