Asiantaeth Tir a Phrisiad
Prynu & Gwerthu Eiddo
Rydym ni’n cynnig cyngor ar gaffaeliadau, gan gynnwys darparu arfarniadau marchnad a chyngor ynghylch gwerthu a/neu prynu eiddo, yn ogystal ag ymgymryd â phrynu a/neu gwerthu eiddo a thir.
Prisiadau
Mae ein syrfewyr wedi’u cofrestru gyda RICS ac o ganlyniad yn gallu darparu cyngor a phrisiadau ar gyfer Treth Etifeddiant a Threth Enillion Cyfalaf, stocio fferm, cynllunio olyniaeth a threth, ynghyd ag amryw o bethau arall.
Rheolaeth Tir & Ystâd
Yn ogystal, gallwn ddarparu ystod o gyngor ar reolaeth tir ac ystâd gan gynnwys cynllunio strategol, darparu tenantiaethau a thrwyddedau pori, a chyngor ar faterion Landlord a Thenant. Gallwn hefyd gynghori ar faterion iawndal a phrynu gorfodol gan gynnwys hawliau trydydd parti, telathrebu a chynlluniau pib linellau.
Gallwn gynnig ymagwedd ddeuol i faterion megis cynllunio olyniaeth a chyngor trethi. Yn ogystal, gallwn gynnig cynlluniau busnes fferm a chyngor i gleientiaid sy’n ystyried prosiectau newydd, a mentrau arallgyfeirio gan gynnwys cymorth gyda cheisiadau cynllunio perthnasol.