Unedau Pesgi Cymeradwy
Ers y 1af o Orffennaf 2021, caniateir i wartheg o Unedau Besgi Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr ac Unedau Pesgi Cymeradwy (Dyrchafedig) gyda phori yn Lloegr i symud o dan drwydded, a chael eu gwerthu mewn Arwerthiannau TB Pwrpasol sydd wedi’u Cymeradwyo (“Marchnadoedd Oren”) yng Nghymru a Lloegr. Gellir dychwelyd gwartheg o Unedau Besgi Cymeradwy yng Nghymru sydd heb eu gwerthu o’r Arwerthiant TB Pwrpasol i Uned Besgi Gymeradwy. Nid yw dychwelyd anifail sydd heb ei werthu o Arwerthiant TB Bwrpasol yn cyfrif fel symudiad am y pwrpas yma.
Gellir symud anifeiliaid sydd wedi cael eu symud i Uned Besgi Gymeradwy yng Nghymru yn barod, o Uned Besgi Gymeradwy neu Uned Besgi Gymeradwy (Dyrchafedig) o dan drwydded i Arwerthiant TB Pwrpasol, ond amod y drwydded yw y gellir ond eu gwerthu yn yr Arwerthiant TB Bwrpasol i’r lladdfa, neu i Uned Besgi Gymeradwy/Uned Besgi Gymeradwy (Dyrchafedig) yn Lloegr. Nid yw’r amod hyn wedi’i gynnwys yn y drwydded eto, ond yn y cyfnod interim tan fod y drwydded yn cael ei ddiweddaru, gall gweithredwyr Unedau Pesgi Cymeradwy yng Nghymru gaffael trwydded.
Bydd canllawiau pellach yn cael eu diweddaru a’u rhoi ar wefan Llywodraeth Cymru a Hwb TB.