Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch “Parth Perygl Nitradau Cymru Gyfan” (neu’r NVZ); daeth y rheoliadau newydd i rym, sy’n berthnasol i Gymru gyfan o’r 1af o Ebrill 2021, bydd rhai elfennau bychan o’r rheoliadau yn dod i rym yn syth, a byddant yn effeithio bron i bob ffermwr sy’n lledaenu naill ai gwrteithiau nitrogen organig neu artiffisial. Bydd y mesurau fwyaf llym o’r rheoliadau, gan gynnwys y gofyniad storio 5 mis a’r cyfnod caeedig ar gyfer tail organig yn cael eu cyflwyno’n raddol, erbyn 2023 a 2024. Heb os, bydd ffermwyr llaeth, moch a dofednod yn debygol o gael eu heffeithio’n fwyaf niweidiol gan y rheoliadau newydd hyn, gyda’r angen posib am wariant cyfalaf uchel er mwyn sicrhau bod gennynt ofynion storio addas mewn lle erbyn 2024.

O’r 1af o Ebrill 2021

  • Cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno sy’n atal lledaenu tail nitrogen sydd wedi’i weithgynhyrchu a thail organig yn agos at unrhyw gwrs dŵr gan gynnwys dyllau turio, ffynhonnau a nentydd.
  • Dylai ffermwyr gynnal arolygiad amodau cyn lledaenu unrhyw nitrogen artiffisial a ni ddylent ledaenu ar dir dwrlawn neu sydd wedi rhewi.
  • Cyfnod Caëdig ar gyfer NITROGEN SYDD WEDI’I WEITHGYNHYRCHU (22) – Ni ddylid ledaenu unrhyw nitrogen sydd wedi’i weithgynhyrchu yn ystod y cyfnodau canlynol:
MATH O BRIDD GLASWELLTIR TIR TROI
POB PRIDD 15fed o Fedi tan 15fed o Ionawr 1af o Fedi tan  15fed o Ionawr

O’r 1af o Ionawr 2023

  • Bydd yna gyfyngiadau penodol yn cael eu cymhwyso i dail organig, gan gynnwys 170kg/ha ar draws y daliad a 250kg/ha ar unrhyw un hectar.
  • Bydd disgwyl i ffermwyr gynllunio’r lledaeniad o nitrogen ar draws y daliad, wedi’i selio ar y nitrogen sydd ar gael yn barod yn y pridd.
  • Bydd angen mapiau risg o’r daliad cyfan, yn manylu yr ardaloedd na ddylid lledaenu arnynt, meysydd tomen caeau dros dro a thir serth nad yw’n addas ar gyfer lledaeniad.
  • Rhaid i domenau caeau dros dro gael eu storio ar bellteroedd penodol wrth gyrsiau dŵr, a dim ar yr un safle am ddwy flwyddyn olynol.
  • Bydd angen cynhyrchu cofnodion blynyddol, sy’n cadarnhau maint y daliad, cyfanswm y tail sy’n cael ei gynhyrchu a storio, mewnforion ac allforion FYM, manylion am y da byw ar y daliad a’n manylu ble mae’r gwrteithiau wedi cael eu cyflwyno.

O’r 1af o Awst 2024
Cyfnodau Caeedig ar gyfer lledaenu tail organig gyda nitrogen uchel sydd ar gael yn barod (slyri, tail moch & dofednod):

MATH O BRIDD GLASWELLTIR TIR TROI
TYWODYN NEU FAS 1af o Fedi tan 31ain o Ragfyr 1af o Awst tan 31ain o Ragfyr
POB PRIDD ARALL 15fed o Hydref tan 15fed o Ionawr 1af o Hydref tan 31ain o Ionawr
  • CYFNODAU STORIO AR GYFER SLYRI, TAIL MOCH & DOFEDNOD bydd angen i ffermwyr gael digon o storfeydd mewn lle ar gyfer y mesurau penodol hyn ar gyfer y cyfnodau canlynol:
    • 1af o Hydref tan 1af o Ebrill ar gyfer moch a dofednod
    • 1af o Hydref tan 1af o Fawrth ar gyfer slyri
  • Bydd angen i unrhyw fferm sy’n cynhyrchu slyri gael system storio slyri mewn lle sy’n cydlynu gyda rheoliadau SAAFO oni bai ei fod wedi’i adeiladu cyn y 1af o Fawrth 1991 ac felly wedi’i eithrio.

Dylid atgoffa ffermwyr nad oes cyfnodau caeedig ar gyfer lledaenu tail arferol sydd wedi’i seilio ar wellt o’r buarth, megis wrth ddefaid a gwartheg bîff cyn belled â nad yw’r ffermwyr yn defnyddio halwynau, neu os oes cyfanswm enfawr o stoc yna bydd cyfyngiadau, er hyn bydd yna fwy o ofynion gwaith papur ar ffermwyr.

Bydd yna lawer o ystyriaethau i’w gwneud er mwyn paratoi ffermydd ar gyfer y rheoliadau hyn, ac mae’n debygol o olygu gwariant cyfalaf yn enwedig ar ffermydd llaeth sydd heb unrhyw storfeydd slyri neu heb storfeydd addas. Os ydych yn bryderus am y gwariant, cynghorir tenantiaid i gysylltu â’u landlordiaid cyn gynted â phosib er mwyn cychwyn ar y trafodaethau hyn. Cynghorir pop ffermwr i ystyried y grantiau Cynhyrchiant Cynaliadwy a Gorchudd Buarth Busnes y Fferm sy’n cael eu cynnig gan RPW er mwyn ceisio sicrhau cyllid tuag at ychydig o’r gwariant angenrheidiol.

Cysylltwch ag Ellie Watkins yn Agri Advisor os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, ellie@agriadvisor.co.uk neu 07495 006808.

.