Pecynnau Cymorth gwerth dros £227 miliwn i helpu economi gwledig Cymru tuag at ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy (Cymru yn Unig)

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y 1af o Ebrill nifer o becynnau cymorth ariannol i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf a byddant yn eu lle tan fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sydd i fod i gael ei gyflwyno yn 2025 mewn lle.

Bydd cyfanswm y pecynnau cymorth hyn werth dros £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf, i adlewyrchu bwriad Llywodraeth Cymru i alluogi trawsnewidiad cyfiawn i Gymru gryfach, wyrddach a thecach.

Bydd y cynlluniau’n cael eu darparu trwy fframwaith hyblyg ar draws y chwe thema ganlynol:

  • Rheolaeth Tir Graddfa Fferm – gweithredoedd rheolaeth tir cynaliadwy ar y fferm i ehangu adnoddau naturiol, er enghraifft annog tyfu cnydau a fydd yn darparu budd amaethyddol fel cnydau protein.
  • Gwelliannau Amgylcheddol Ar y Fferm – gan gynnwys ehangu effeithiolrwydd tanwydd, porthiant a maeth, gwreiddio dulliau economi gylchol ac annog y defnydd o egni adnewyddadwy.
  • Effeithiolrwydd ac Arallgyfeirio Ar y Fferm – cefnogi effeithlonrwydd fferm trwy fuddsoddiad mewn technoleg ac offer newydd ac i alluogi cyfleoedd ar gyfer arallgyfeiriant amaethyddol.
  • Rheolaeth Tir ar Raddfa Tirwedd – darparu datrysiadau wedi’u seilio ar natur ar raddfa tirwedd, trwy ymagwedd gydweithredol amlsector.
  • Coetir a Choedwigaeth – cefnogi ein hymrwymiad creu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi creu strategaeth ddiwydiannol yn seiliedig ar bren.
  • Cadwyni Gyflenwi Bwyd a Ffermio – creu diwydiant bwyd a diod Gymreig fywiog gydag enw da byd-eang o ran rhagoriaeth gydag un o’r cadwyni gyflenwi fwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Mae ambell un o’r cynlluniau coedwigaeth ar agor yn barod, gyda ffenestr Datganiadau Diddordeb nifer arall o’r cynlluniau newydd hyn i agor o fis Mai ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd mwy o gynlluniau yn cael eu lansio unwaith y bydd gwaith cynllunio pellach yn cael ei wneud.

Ceir rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn yma Annex 1.pdf (gov.wales).

Os hoffech wneud cais ar gyfer unrhyw gynllun nawr neu yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar 0330 4609493.