Rural Advisor

Advisory Service for Rural Issues

Home Grantiau a Chynlluniau’r Llywodraeth

Grantiau a Chynlluniau’r Llywodraeth

Rydym ni’n cynnig cyngor cyflawn a chynhwysfawr mewn perthynas â Chynllun y Taliad Sylfaenol gan gynnwys cyflwyno ceisiadau yng Nghymru a Lloegr, cyngor ynghylch y Taliad Gwyrdd, hawliadau trawsffiniol a chymorth gydag apeliadau yn y ddwy wlad.

Yn ogystal, rydym ni’n gyfredol gyda’r wybodaeth grantiau diweddaraf, gan olygu y gallwn gynnig cyngor defnyddiol i’n cleientiaid yng Nghymru a Lloegr ynghylch y cynlluniau sydd ar gael a p’un ai y byddan nhw’n addas ar gyfer daliad penodol. Yng Nghymru, mae’r gallu gyda ni i ddelio gyda chytundebau Glastir a gallwn gyflwyno apeliadau yn erbyn unrhyw gosbau. Gallwn ddarparu cyngor trylwyr ynghylch Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Cheisiadau Grant Cyfalaf Dŵr yn Lloegr, gan gynnwys cyngor ar opsiynau, cyflwyno ceisiadau a’r rheolaeth flynyddol gofynnol.

Gallwn ddarparu gwasanaeth cyflawn mewn perthynas â’r Grantiau Cynhyrchiant Cynaliadwy yng Nghymru o gymorth gyda’r Datganiadau Diddordeb, i helpu gyda’r cais llawn gan gynnwys unrhyw gynlluniau busnes fferm ac unrhyw geisiadau cynllunio gofynnol.

Gwerthfawrogwn y gall deall a dilyn gofynion trawsffiniol fod yn anodd, ac yn Rural Advisor, gallwn ddarparu cyngor cynhwysfawr mewn perthynas â’r holl elfennau Drawsgydymffurfiol gan gynnwys darparu cofnodion Parth Perygl Nitradau (NVZ) a chyngor cysylltiedig ynghylch ffermio o fewn NVZ. Mae hwn yn benodol berthnasol i’r rhai hynny sy’n ffermio yng Nghymru sydd bellach yn gorfod cydlynu i’r Rheoliadau newydd o ran llygredd a ddaeth i rym yn 2021. Yn ogystal, i’r cleientiaid hynny sydd angen, gallwn drefnu i fod yn bresennol ar y fferm yn ystod unrhyw arolwg, er mwyn cynnig cefnogaeth a chymorth lle bo’r angen.