Golwg gyntaf ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amlinelliad o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a fydd yn cymeryd lle y Cynllun Taliad Sylfaenol  yng Nghymru yn 2025.  Mae’r ddogfen yn cadarnhau amcanion y Cynllun newydd ac, yn naturiol, mae pwyslais ar ffermio a rheloaeth tir cynaliadwy a newidiadau i’r tirlun.

O dan y Cynllun, mi fydd yna weithredoedd Sylfaenol, Opsiynol a Chydweithredol.  Bydd unrhywun sydd am ymrwymo i’r Cynllun yn gorfod cyflawni y gweithredoedd Sylfaenol, gyda’r ddau fath arall yn opsiynnau ychwanegol.  Bydd y gweithredoedd Cydweithredol yn golygu cydweithio dros ardal eang.  Yn cyd-redeg gyda dyfodiad y Cynllun, bydd cymorth, cyngor ac hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Cyswllt Ffermio.  Mi fydd busnesau hefyd yn cael eu ffigurau blynyddol wedi eu meincnodi, er mwyn ceisio codi perfformiad busnesau amaethyddol.

Efallai mai’r pwynt amlycaf yw’r angen i bob fferm fod a gorchudd coed dros 10% o’r tir ac hefyd i 10% gael ei neulltio a’i reoli i greu cynefinoedd lled-naturiol.  Mi fydd angen mwy o wybodaeth i asesu effaith y mesurau newydd ar ein ffermydd.  Mae’n siwr y bydd mwy o graffu ar rôl cynhyrchu a diogelwch bwyd yn sgil y gofidiau sydd wedi codi yn ddiweddar.

Hyd yn hyn, does dim syniad o’r talidau tebygol y gall ffermwyr ddisgwyl am gyflanwi y gofynion.  Mae’n debyg mai y wybodaeth hyn fydd yn dylanwadu fwyaf ar awydd ffermwyr i ymuno â’r Cynllun ac, yn y bôn, pa mor llwyddiannus y bydd.  Bydd cyfnod arall o gyd-ddylunio gyda ffermwyr a rhan-ddalwyr nawr ac ymgynghoriad arall cyn i’r Cynllun terfynnol gael ei gyhoeddi.

Gallwch ddarllen dogfen Llywodraeth Cymru fan hyn:

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-07/cynllun-ffermio-cynaliadwy-cynigion-bras-ar%20gyfer%202025.pdf