Rural Advisor

Advisory Service for Rural Issues

Home Ein Pobl – Alison Harvey

Alison Harvey

Arbenigwraig yn gweithio gyda busnesau gwledig, gan gynnwys busnesau amaethyddol, bwyd a diod, garddwriaeth a busnesau sydd yn arallgyfeirio.

Amdana i

Gyda chefndir yn amaethyddiaeth, cadwynau cyflenwi bwyd ac amaeth, rwy’n credu yn gryf yn ein heconomi gwledig a dwi’n medru helpu cwmnïoedd a busnesau sydd yng nghlwm a’r uchod, trwy weithio yn agos gyda nhw i greu cynllun sydd yn addas i’w busnes, a’u teuluoedd.

Rwy’n person cyfeillgar ac mae gen i’r sgiliau a’r weledigaeth i helpu unrhyw fusnes i symud ymlaen i’r cam nesa, ac i dyfu, gymaint neu cyn lleied ac sydd angen. Rwy’n gweithio’ hyblyg iawn i wneud yn siwr eich bod chi’n cael y canlyniad iawn i chi.

Beth rwy’n neud

Rwy’n cefnogi pobl a’u busnesau gan weithio ar:

  • Marchnata strategol wedi’u teilwra i chi
  • Creu targedau clir bydd yn dod a chanlyniadau – ac yn eich cefnogi i gyrraedd eich targedau
  • Cefnogaeth wrth ddechrau busnes newydd
  • Cynlluniau arallgyfeirio
  • Cefnogaeth ar frandio, targedu cwsmeriaid newydd a helpu gyda chyrraedd marchnadoedd newydd
  • Mentora unigolion o fewn y busnes

Shwt rwy’n gweithio

Gan weithio ar y pethau canlynol gallaf helpu chi i symud eich busnes ymlaen:

  • Cynlluniau busnes
  • Cynlluniau marchnata
  • Mentora
  • Cyndlynnu cyfarfodydd
  • Trafodion olyniaeth
  • Cynllunio digwyddiadau
  • Rheoliadau

Pwy ydw i’n gweithio gyda?

  • Busnesau bwyd a diod yng Nghymru
  • Busnesau fferm sydd yn edrych ar arallgyfeirio
  • Perchnogion busnes ac unigolion sydd â syniadau sydd angen rhoi mewn i bractis
  • Gwaith prosiect i fusnesau mawr yn y byd cadwyn cyflenwi

Shwt gallai helpu chi?

Rwy’n mynd at y gwaith trwy gyd-weithio ac yn gwneud pob ymdrech i beidio â chymhlethu. Fe wnâi gwrando gyntaf, deall eich busnes, wedyn bydd e’n bosib rhoi cynllun at ei gilydd sydd yn addas i’ch busnes chi.

Gallai helpu chi rhoi ffocws a dealltwriaeth o’r camau nesa. Gallai hefyd cadw chi ar y cynllun trwy fentora a thargedau.

Pa fuddion sydd i’ch busnes chi?

  • Cynllun ar dyfiant y busnes, gan gynnwys y camau sydd angen cymryd i ddilyn y cynllun
  • Strategau marchnata sydd yn targedu’r cwsmeriaid iawn i’ch busnes chi
  • Cefnogaeth onest ac ymarferol sydd yn addas i chi fel unigolion, tîm neu deulu, ac i’r busnes
  • Mwy o hyder yn eich busnes, ac i wneud y penderfyniadau nesa

Gadewch i ni siarad

Os ydych yn barod i gael sgwrs am eich camau nesaf, cysylltwch â fi ar:

📧 alison.harvey@ruraladvisor.co.uk

📞 07498 984 313