Cynllun Cynllunio Creu Coetir (CCCC) – Cymru yn Unig

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir (CCCC) newydd wedi’i agor gan Lywodraeth Cymru a bydd yn parhau ar agor trwy gydol y flwyddyn (yn ddarostyngedig i’r gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu derbyn bob chwe wythnos. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio yn dilyn y peilot a redwyd yn 2021.

Mae’r CCCC yn cynnig grantiau o rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu cynlluniau ar gyfer creu coetir. Ar hyn o bryd mae yna gyllideb o £500,000 ar gyfer hawliadau a wnaed erbyn 31 Mawrth 2023.

Ar ôl i gynllun gael ei wirio’n llwyddiannus gan Gyfoeth Naturiol Cymru, bydd yn gymwys ar gyfer gyllid Llywodraeth Cymru i blannu coed. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o fis Awst, gyda’r ffenestri’n agor bob tri mis o hynny ymlaen, yn ddarostyngedig i argaeledd y gyllideb.

Er mwyn hawlio, bydd angen i chi gwblhau Datganiad o Ddiddordeb (DODd), rhaid i’r rhain fod ar gyfer cynllun coetir o oleuaf dau hectar. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried proses symlach am ardaloedd o goetir sy’n llai na’ dau hectar a bydd cyfleoedd i ymgeisio am gyllid i’r prosiectau hyn yn hwyrach yn 2022.

Noder nad oes modd i dir berchnogion wneud dau DODd ar gyfer yr un daliad tir bob blwyddyn.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth Cymru – Cynllun Cynllunio Creu Coetir | Is-bwnc | LLYW.CYMRU  neu cysylltwch â Katie Davies ar 01267 887190 neu katie.davies@ruraladvisor.co.uk.