Mae yna amrywiaeth o wahanol grantiau ar gael i’w defnyddio yng Nghymru i’r rhai hynny yn y diwydiant amaethyddol er mwyn gwella neu gefnogi eu busnes. Mae’r erthygl hon yn amlygu nifer o’r rhai hynny sydd ar gael a’n darparu gwybodaeth fras yn eu cylch.
Mae Grantiau Bach Glastir yn gynllun arunig sy’n darparu mwyafswm cyllid o £7,500 i bob thema ar gyfer gwaith cyfalaf i gynnal prosiectau sy’n helpu gwella ansawdd dŵr a lleihau’r risg o lifogydd. Mae’r ffenestr Datganiadau o Ddiddordeb (DoDd) ar agor ar hyn o bryd ar gyfer Grantiau Bach Glastir – Tirwedd a Pheillwyr tan 25ain o Fehefin 2021 gyda chyllideb o £3 miliwn. Fel gyda ffenestri blaenorol, dydy cael cytundeb Glastir yn barod DDIM YN ANGENRHEIDIOL i fod yn gymwys.
Ar ôl cwblhau DoDd, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu a bydd angen derbyn y cytundeb o fewn 21 diwrnod ac yna cwblhau’r gwaith cyfalaf a chyflwyno’r hawliad terfynol erbyn 21ain o Fawrth 2022. Mae’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar nifer o eitemau a gwaith cyfalaf.
Mae Cynllun Gorchuddio Iardiau y Grant Busnes Fferm yn cael ei gynnig i helpu talu am orchuddion iard a gwelliannau mewn systemau draenio ar gyfer adeiladau. Mae’r ffenestr DoDd presennol yn rhedeg tan 25ain o Fehefin 2021. Mae’r grant am gyllid o 40% gyda lleiafswm grant o 40% (gwariant o £30,000). Fel yn flaenorol, rhaid i gynhyrchwyr gael trosiant o lain a £1 miliwn.
Mae yna 5 math o ardaloedd to, pob un â sgoriau gwahanol – gorchuddio ardaloedd bwydo da byw, gorchuddio storfeydd tail, gorchuddio storfeydd silwair, gorchuddio storfeydd slyri a gorchuddio ardaloedd ymgynnull. Mae sgoriau pob eitem yna’n cael eu lluosi gydag ansawdd a maint dŵr yr ardal berthnasol – fel y’i pennir gan Lywodraeth Cymru. Mae eitemau ychwanegol ar gael megis gwteri a phibellau i lawr, systemau cynaeafu dŵr glaw, cit analeiddio slyri, ond ni fydd y rhain yn effeithio’r sgoriau o gwbl. Gall yr eitemau hyn gael eu defnyddio i’ch helpu i gyrraedd y gwariant lleiafrifol fodd bynnag.
Adeg cyflwyno’r DoDd, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno 4 ffotograff CYN â geotag o’r ardal sydd i gael to. Bydd gan ffermwyr 12 mis o ddyddiad creu’r Cytundeb i gwblhau’r gwaith a chyflwyno hawliad.
Rhaid iddo fod yn do newydd – dim ail-law. Gallwch ei adeiladu eich hun, ond os felly, rhaid i chi ddarparu tystysgrif peiriannydd. Yn y cyfnod Hawliad, bydd angen i chi gyflwyno cadarnhad o ran caniatâd cynllunio a SUDS (deliadau gyda dŵr ar yr arwyneb mewn datblygiadau dros 100 milltir sgwâr), llythyr wrth Gyfrifydd ynghylch trosiant £1m, anfonebau ar gyfer y sied / deunyddiau a ffotograffau AR ÔL â geotag.
Mae’n werth nodi bydd rhaid i’r ffotograffau AR ÔL â geotag ddangos hefyd bod y dŵr glân o’r to newydd yn cael ei arallgyfeirio i ddraen dŵr glân, a bod y slyri o ardal yr iard yn cael ei gyfeirio at y pit slyri.
Am wybodaeth pellach neu gymorth gyda chais am naill un o’r grantiau, cysylltwch ag Ellie Watkins neu Katie Davies ar 01558 650381, ellie.watkins@ruraladvisor.co.uk neu katie.davies@ruraladvisor.co.uk