Cynllunio
Gall Rural Advisor helpu cleientiaid gyda chymhlethdodau cynllunio a’r broses rheoli datblygiad. Rydym yn darparu cymorth ar:
- Datblygiad a ganiateir a hysbysiad ymlaen llaw
- Gwaredu amodau
- Tystysgrifau cyfreithlondeb (defnydd neu ddatblygiad)
- Y broses cyn-ymgeisio
- Ceisiadau Cynllunio
- Cydsyniad Adeilad Rhestredig
- Apeliadau
- Sylwadau/Gwrthod Ceisiadau Cynllunio
- Problemau Gorfodi
- Anghydfodau ffin
- Cynlluniau Datblygiad
- Prosiectau Arallgyfeirio
Mae’r tîm yn tynnu oddi wrth eu gwybodaeth fanwl a chyfoes o’r gyfraith gynllunio a pholisi yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal, mae gennym ni brofiad sylweddol mewn ymarfer cynllunio proffesiynol ar lefel Llywodraeth ganolog a lleol. Mae’r cyfuniad hon o arbenigaeth gyfreithiol a chynllunio yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr a gwybodus i ymarferoldeb a naws y prosesau cynllunio a’n sicrhau bod ein cyngor cynllunio yn hollol wybodus a phragmatig.
Gallwn helpu gydag ystod eang o faterion sy’n ymwneud â chynllunio.