Ymgynghoriaeth Busnes Fferm
Cynllunio Busnes Fferm
Gall Rural Advisor helpu eich busnes drwy gynhyrchu adolygiad busnes trylwyr a chreu cynllun busnes ar gyfer y dyfodol. Gallwn hefyd adolygu perfformiad y busnes a’i feincnodi yn erbyn busnesau cyfatebol. Gyda newidadau sylweddol i’r ffordd y mae busnesau amaethyddol yn derbyn cymorthdaliadau, mae’n amser pwysig i sicrhau bod eich busnes yn barod erbyn diddymiad y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS).
Mae gan y tîm brofiad ymarferol o ffermio, cynghori ac anghenion y rheloau niferus sy’n berthnasol i fusnes fferm. Gallwn gynghori a pharatoi:
- Gwerthfawrogiad o fuddsoddiadau neu newidiadau i’r busnes;
- Cynlluniau ar gyfer newidiadau yn sgîl dilyniant neu rannu busnes;
- Meincnodi er mwyn gwneud gwelliannau;
- Cylludebau a llif arian.
Strwythurau Partneriaeth Fferm a Chorfforaethol
Mae gennym ni dîm ymroddedig sy’n arbenigo mewn drafftio partneriaethau fferm a strwythurau busnes er mwyn sicrhau bod y busnes yn cael ei redeg yn y ffordd fwyaf effeithlon, drwy gofnodi ar bapur fwriad y partïon. Mae anghydfodau fel arfer yn codi o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu ac eglurdeb o ran beth mae’r busnes yn edrych i gyflawni a rôl unigolion o fewn y busnes hynny.
Mae Rural Advisor yn ymfalchïo yng ngwybodaeth nifer o’r staff o lygad y ffynnon o ran busnesau ffermio ac ymarferoldeb. Yn aml mae angen datrysiad ymarferol â chyfreithiol ar anghydfodau mewn ardaloedd gwledig. Mae cyfuniad unigryw Rural Advisor yn ein galluogi i gynghori unrhyw fusnes yn gynhwysfawr wrth iddynt brofi anawsterau.
Gallwn hefyd gynghori ar bob math o fentrau ar y cŷd a pharatoi cytundebau addas ar gyfer perthnasau busnes fel Ffermio Cytundeb neu Ran-Ffermio.
Cadw Cyfrifon
Gallwn ddarparu’r gwasanaethau canlynol:
- Ymweliadau safle misol i gofnodi a monitro perfformiad
- Adroddiadau Elw & Cholled Misol
- Ffurflenni TAW
- Gweinyddiaeth Busnes & Chyflogres
- Cyfrifon Rheolaeth Fferm
- Gwybodaeth Ariannol wrth law
Gallwn weithio gyda’ch pecyn meddalwedd cyfrifon presennol a sicrhau bod rheoli eich cofnodion ariannol yn freuddwyd nid hunllef!